Cysylltwch â Ni
Media Cymru
Sbarc, Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ
Mae'r Diwydiannau Creadigol yn llwyddiant ysgubol yng Nghymru, gyda throsiant trawiadol gwerth £5 biliwn ac yn cyfrif am £540 miliwn o allforion tramor yn 2023. Ond mae'r llwyddiant hwn yn fregus. Mae'n seiliedig ar rwydwaith o gwmnïau bach annibynnol a gweithwyr llawrydd sy'n goroesi ton ar ôl ton o newid digidol.
Mae Tanio’r Dyfodol yn tynnu sylw at effaith ymchwil, datblygu ac arloesi ac yn adrodd hanes sector cyfryngau Cymru yn adeiladu dyfodol teg, gwyrdd a byd-eang.
Rydyn ni nawr yn galw am gyfranogiad gweithredol ein partneriaid, cydweithwyr a rhanddeiliaid. Heb gamau gweithredu a buddsoddiad pendant, mae ein diwydiannau creadigol mewn perygl o gael eu hanwybyddu a methu â datblygu ar yr un cyflymder â thechnoleg.
Mae eich cefnogaeth yn hanfodol wrth ddatgloi ein potensial ar y cyd.
